| |
|
Sut medraf chwarae?
Llenwch y daflen gais ar y safle yma, printiwch y daflen, arwyddwch hi a’i hanfon at RHADBOST LOTERI SIR GÂR.
Mae taflennu hefyd ar gael yn Swyddfa’r Ffermwyr Ieuainc a Sefydliad y Merched neu gan yr aelodau o gwmpas y Sir neu trwy alw 01267 221071.
Faint mae’n costio?
Mae pob rhif yn costi £1 yr wythnos. I wneud gweinyddiaeth y loteri yn rhwyddach mae’n rhaid talu am lleiafswm o 4 wythnos, ond medrwch hefyd dalu yn fisol, pob cwarter neu yn flynyddol.
Os ydych am 1 rhif yn unig, byddwch yn talu £4 pob 4 wythnos, £4.34 pob mis, 13 y chwarter neu £52 y flwyddyn.
Nid wyf yn hoffi archeb banc, felly a fedraf dalu rhyw ffordd arall?
Medrwch, anfonwch siec neu archeb bost. ‘Rydym yn gofyn am lleiafswm o £13 os yn talu gyda siec.
Nid oes gennyf gyfri banc, felly a fedraf chwarae?
Medrwch, trwy dalu gyda archeb bost.
Sawl rhif sydd hawl gennyf ei cael?
Faint bynnag y mynwch! Nid oes cyfyngiad; mae’n £1 y rhif pob wythnos.
A fedraf ddewis rhifau fy hun?
Na fedrwch, byddaf yn cael y rhif nesaf mewn llinell a byddwch yn cadw’r rhif yno tra byddwch yn dymuno chwarae.
Beth yw fy nghyfle i ennill?
Dechrau Ionawr 2008 ‘roedd 2,500 yn chwarae Loteri Sir Gâr.
Mae’r cyfle felly yn 1 mewn 2,500.
Os mae dim ond 2,500 o bobl sy’n y loteri, pam mae fy rhif dros 3,000?
Am resymau gweinyddol dechreuwyd y rhifau yn 1,000.
Sut byddaf yn gwybod os wnaf ennill?
Mae’r rhif yn cael ei dynnu ar Radio Sir Gâr bob dydd Gwener am 10.45 o’r gloch a mae’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y “Carmarthen Journal”, “Llanelli Star”,
“Ammanford Guardian” ac ar safle y wê.
Oes rhaid i mi ei hawlio?
Nac oes, mi wnaf gysylltu a chwi os wnewch ennill.
Oes rhaid i mi gael fy llun yn y papur?
‘Rydym yn cadw’r hawl i gyhoeddi yr enillwyr ond ni wnawn eich gorfodu i gael eich llun yn y papur!
Byddem yn casau petai hynny yn rhwystro chi rhag chwarae.
Pwy sy’n rhedeg y Loteri?
Mae’r loteri yn cael ei redeg gan cyfarwyddwyr Cymdeithas Loteri Sir Gâr,
wedi ei reoli a’i weinyddu gan Michelle Rees.
Lle mae’r Arian yn mynd?
Ar ôl talu’r wobr a chostau e.e marchnata, swyddfa a staff, bydd gweddill o’r arian yn mynd tuag at fusnesau Sir Gâr mewn ffyrdd benthyciadau di-log.
Pryd mae’r Loteri yn cael ei dynnu?
Mae’r loteri yn cael ei dynnu bob bore Gwener am 10.45 o’r gloch.
Sut mae’r Loteri yn cael ei dynnu?
Mae pob rhif Loteri yn cael ei rhoi ar fas data cyfrifiadurol, a phob dydd Gwener mae person annibynnol yn cael gwasgu y botwm “ennill” ar y cyfrifiadur. Mae’r cyfrifiadur yma yn dewis ar hap un rhif allan o’r holl enwau.
Pryd fyddaf yn cael yr arian os wnaf ennill?
Yn union. Mae siec ar gael yn swyddfa’r Loteri yn union ar ôl tynnu’r rhif.
Ble mae canolfan y Loteri?
Mewn swyddfa yn nerbynfa y Carmarthen Journal yn King Street, Caerfyrddin, Sir Gâr.
Nid wyf yn gwybod fy rhif, sut medraf ffeindio allan?
Ffoniwch ni ar 01267 221071
‘Rwyf yn byw tu allan i Sir Gâr, a fedraf dal i chwarae?
Medrwch, os oes gennyf gyfeiriad Prydeinig. Byddwn ond yn rhoi benthygiadau i fusnesau sydd wedi ei lleoli yn Sir Gâr, ond mae hawl gan unrhyw un a chyfeiriad Prydeinig i chwarae.
|
|